Y Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant / Cross-Party Group on Violence Against Women and Children

 

15 Mawrth 2024 / 15 March 2024

 

Cadeiriwyd gan / Chaired by: Sioned Williams AS / MS 

Ysgrifenyddiaeth / Secretariat: Cymorth i Ferched Cymru / Welsh Women's Aid 

 

Yn bresennol

Ymddiheuriadau

·         Sioned Williams AS (Cadeirydd)

·         Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

·         Andrea Cooper (Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Siaradwr)

·         Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru (Siaradwr)

·         Rhys Morgan (Cyfieithydd ar y pryd)

·         Stephanie Grimshaw, Cymorth i Ferched Cymru

·         Joanna Parry, Cyfannol

·         Louise Dobbs, Stori Cymru

·         Necia Lewis

·         Abigail Rees, Barnardo’s

·         Louise Dobbs

·         Victoria Vasey, y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN)

·         Jo Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol, Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

·         Sam Lewis, Llamau

·         Debbie Beadle

·         Simon Borja

·         Jennifer Hodrien, yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU)

·         Mark Isherwood AS

·         Sarah Thomas, Llwybrau Newydd

 

·         Susan Roberts, Cerrig Camu, Gogledd Cymru

·         Andrew Belcher ac Emma Rushton, Stori Cymru

·         Melissa Wood, We Stand

 

 

Cofnodion

 

Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

 

Cyflwyniadau, trefniadau ymarferol, ac ymddiheuriadau

 

Trefniadau ymarferol:

·         Nodyn cyflym i'ch atgoffa bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer y cyfarfod hwn. Cliciwch ar ‘More actions’. Yna, dewiswch ‘Language Interpretation’, ac ar y gwymplen, cliciwch ar yr iaith yr ydych am ei chlywed.  Yna, cliciwch ar ‘Confirm’.

 

Sioned Williams AS, Cadeirydd 

Materion sy’n codi

Diweddariadau ar y llythyr hollbleidiol ynghylch aflonyddu rhywiol yn y gweithle

·         Cafwyd ymateb gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn nodi eu bod yn cymryd aflonyddu yn y gweithle o ddifri, a bod ganddynt brosesau ar waith, yn unol â’r hyn â nodir gan y blaid ganolog.

·         Cafwyd ymateb gan Blaid Cymru, sydd wedi cael ei ddosbarthu. Bydd y blaid yn argymell i’w Phrif Weithredwr a’i chyrff llywodraethu fod y pecyn cymorth yn cael ei fabwysiadu.

·         Ni chafwyd ymateb gan y Democratiaid Rhyddfrydol na’r Blaid Lafur. A yw’r grŵp yn dymuno i JM ysgrifennu at arweinydd newydd y Blaid Lafur yn dilyn ei benodiad?

 

Llythyr at Lywodraeth y DU yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza

·         Cafwyd ymateb gan y Gweinidog Gwladol dros y Dwyrain Canol yn amlinellu ei safbwynt ar drais rhywiol sy'n gysylltiedig â gwrthdaro. Mae’r ymateb hefyd yn manylu ar y dull gweithredu sy’n cael ei ddefnyddio i geisio cyflawni cadoediad cynaliadwy, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu o ran cymorth, a sut y mae’n ceisio datrys yr argyfwng gyda chynrychiolwyr eraill.

·         Cafwyd ymateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn nodi bod yn rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol o ran sicrhau cadoediad llawn a pharhaol. Cafwyd trafodaeth hefyd ynglŷn â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yma, gan gynnwys mynd i’r afael ag islamoffobia a gwrth-semitiaeth a sicrhau heddwch ym mhob cymuned.

 

 

Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru

 

Cam i’w gymryd: JM i ysgrifennu at yr arweinydd newydd.

Cymeradwyo’r Cod Ymddygiad

 

 

Ailgymeradwyo'r cod ymddygiad er mwyn ychwanegu'r term ‘gwahaniaethu ar sail oedran’ ('ageism') ato, a hynny’n seiliedig ar yr adborth a gafwyd yn y cyfarfod diwethaf.

 

 

Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru

Diweddariad ar GREVIO (Grŵp o Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig) / Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar VAWG (Trais yn erbyn Menywod a Merched)

 

 

Dau ymweliad gwahanol: GREVIO a Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig.

Digwyddodd y rhain yn agos iawn at ei gilydd yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror.

Roedd ystod eang o sefydliadau rheng flaen a sefydliadau ymgyrchu yn bresennol yn y ddau weithdy.

Roedd y rhain yn benodol ar gyfer cyrff anllywodraethol.

 

GREVIO:

·         22 Ionawr 2024

·         Corff annibynnol o arbenigwyr sy’n monitro’r broses o weithredu confensiwn Istanbul

·         Dwy drafodaeth bord gron

·         Y drafodaeth gyntaf: Cam-drin domestig, yr heddlu, plant, stelcian, llysoedd teulu a chyfryngu gorfodol, ffurfiau digidol o VAWG, trais rhywiol

·         Yr ail drafodaeth: ffocws ar elfennau croestoriadol, gan sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i fenywod ag anableddau, menywod oedrannus, menywod du a menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod LHDTC+, a menywod sydd wedi camddefnyddio sylweddau. Hefyd, cafwyd trafodaethau manwl ar y sefyllfa sy’n wynebu menywod mudol, menywod sy'n ceisio lloches, a'r hyn a elwir yn gam-drin ar sail anrhydedd

·         Roedd angen i'r ddau gyfarfod fod yn gyfrinachol

·         Dyma oedd y themâu cyffredinol: yr angen i greu cysylltiadau, y sefyllfa sy’n wynebu menywod mudol a cheiswyr lloches

·         Disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd

·         Roedd llawer o sefydliadau wedi cyflwyno adroddiadau i'r corff cyn y cyfarfod, ac roedd yn amlwg bod yr adroddiadau wedi cael eu darllen

·         Canolbwyntiodd y grŵp yn benodol ar fenywod a’r broses o ddarparu gwasanaethau

 

Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig:

·         Reem Alsalem, Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig

·         Roedd yn y DU am 10 diwrnod

·         Roedd amrywiaeth o wasanaethau VAWG rheng flaen a sefydliadau ymgyrchu wedi cymryd rhan mewn dau gyfarfod bord gron

·         Trefnodd Cymorth i Fenywod Cymru y cyfarfodydd mewn modd a fyddai’n sicrhau rhestr amrywiol o gyfranwyr

·         Cynhaliwyd y cyfarfodydd ar ffurf hybrid er mwyn sicrhau bod cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru yn gallu cymryd rhan

·         Ni phennwyd themâu penodol ar gyfer y cyfarfodydd, er mwyn caniatáu i sefydliadau dynnu sylw at y materion pwysicaf o’u safbwynt hwy

·         Rhoddodd Cymorth i Ferched Cymru gyfle iddynt gwrdd â chynghorwyr rhanbarthol, gan fod hon yn rôl sy'n unigryw i Gymru, a chan eu bod yn dod â lefel o gydlyniad i ymateb y sector cyhoeddus

·         Gwnaethant gwrdd hefyd â chynrychiolwyr o’r llinell gymorth Byw Heb Ofn

·         Rhoddwyd cryn ffocws ar gyllid, materion tai, a data sydd wedi'u datgrynhoi ar gyfer Cymru yn benodol

·         Mae adroddiad interim eisoes wedi’i gyhoeddi yma, a disgwylir yr adroddiad llawn ddiwedd mis Mehefin

 

Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru

Gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn o ran atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin

 

 

·         Mae gan y Comisiynydd Pobl Hŷn nifer o flaenoriaethau, ac un ohonynt yw atal pobl hŷn rhag cael eu cam-drin yng Nghymru

·         Gall ymwybyddiaeth o’r mater fod yn rhy isel

·         Mae 1 o bob 5 person hŷn yn profi rhyw fath o gamdriniaeth, a gallant fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin yn sgil materion iechyd – er enghraifft, dementia, unigrwydd, unigedd. Mae'r pethau hyn yn cynyddu lefelau risg

·         Nid yw llawer o bobl hŷn yn datgelu'r cam-drin y maent wedi'i ddioddef. Mae’n bosibl nad ydynt yn cydnabod yr ymddygiad hwn fel ymddygiad camdriniol. Fel arall, mae’n bosibl eu bod yn amharod i’w adrodd, gan eu bod yn pryderu, er enghraifft, am fygythiadau i'w perthnasoedd, ac am y cam o fynd i ofal sefydliadol. Efallai y bydd rhai yn dibynnu ar gyflawnwyr am eu hanghenion gofal

·         Mae mynd i’r afael â cham-drin wedi bod yn flaenoriaeth hirdymor i’r comisiynydd presennol a’r comisiynydd blaenorol. Daeth yn bryder penodol yn ystod yr epidemig COVID, yn sgil yr ynysigrwydd cymdeithasol yr oedd pobl yn ei brofi

·         Lluniodd y Grŵp Gweithredu strategaeth sy’n cynnwys 6 blaenoriaeth:

§  Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd

§  Cymorth a gwasanaethau

§  Ymchwil a data

§  Lleisiau pobl hŷn

§  Hyfforddiant a chymorth

§  Polisi a deddfwriaeth

·         Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd:

o   Yn gyffredinol, mae diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â’r ffaith y gall pobl hŷn gael eu cam-drin.

o    Mae bylchau o ran gwybodaeth a dealltwriaeth yn ei gwneud yn llai tebygol y gall pobl adnabod arwyddion penodol ac ymyrryd.

o    Lluniwyd taflen ynghylch cael mynediad at gymorth at ddibenion cadw'n ddiogel, ac mae dros 15,000 o gopïau caled wedi'u dosbarthu. Anfonwch e-bost at Andrea os ydych yn dymuno cael copïau o’r daflen.

o   Mae gwefan wedi'i hanelu at ymarferwyr lle gallant nodi eu cod post a chael gwybodaeth am wasanaethau lleol.

·         Cymorth a gwasanaethau:

o   Mae nifer o brosiectau ymchwil wedi mapio'r gwasanaethau sydd ar gael. Buont hefyd yn edrych ar y llety, y cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn ledled Cymru.

o   Gall pobl o gymunedau penodol – er enghraifft, pobl LHDTC+ neu bobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig – wynebu rhwystrau pellach o ran cael mynediad at gymorth.

·         Dynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig:

o   Mae'r tebygolrwydd y bydd dynion yn profi cam-drin domestig yn cynyddu wrth iddynt heneiddio.

o   Mae ansicrwydd ynghylch y rhesymau pam. O bosibl, mae cysylltiad â’u hanghenion gofal.

o   Roedd y mater hwn yn cael ei godi'n gyson gan aelodau o'r grŵp gweithredu.

o   Nodwyd sawl rhwystr – er enghraifft, teimladau o euogrwydd a chywilydd, a oedd yn eu hatal rhag ceisio cymorth.

·         Polisi a Deddfwriaeth:

o   Maent yn cymryd rhan yn y strategaeth newydd ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

o   Maent yn rhan o’r glasbrint VAWDASV (y ffrwd waith ar Anghenion Pobl Hŷn), gan ganolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o wasanaethau ac yn gallu cael mynediad atynt. Yn benodol, maent yn edrych ar asesiadau risg mewn perthynas â Cham-drin Domestig, Stelcian ac Aflonyddu (DASH) a’r broses Gofyn a Gweithredu, ac yn ceisio sicrhau eu bod yn addas ar gyfer anghenion pobl hŷn.

o   Maent yn dylanwadu ar gynllun gweithredu cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru i atal cam-drin pobl hŷn, sydd ar gael yma.

 

Mae dau brif ddarn o waith yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd:

·         Camdriniaeth ariannol a sgamiau:

o   Dyma un o’r mathau mwyaf cyffredin o gam-drin sy’n effeithio ar bobl hŷn.

o   Mae'n effeithio ar tua 6.8 y cant o bobl dros 60 oed. Fodd bynnag, mae llawer ohonynt yn dewis peidio â cheisio cymorth gan eu bod yn teimlo embaras, felly mae’r amcangyfrifon yn rhy isel.

o   Roedd y sefydliad Stop Loan Sharks, pedwar heddlu ac eraill yn bresennol mewn cyfarfod bord gron.

o   Trafodwyd yr holl ffactorau cyfrannol – er enghraifft, y pandemig, gwahanol fathau o dwyll, yr angen i godi ymwybyddiaeth mewn ffyrdd sy'n ystyrlon i bobl hŷn.

o   Mae gwaith yn cael ei wneud i adolygu’r adnoddau sydd ar gael, ac i ddatblygu canllawiau ar gyfer sefydliadau wrth ddatblygu adnoddau er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch. Ni waeth pa mor ddeniadol neu liwgar yw’r adnoddau hynny, bydd llawer o bobl hŷn yn eu hosgoi yn sgil eu nerfusrwydd yn eu cylch.

·         Gwahaniaethu ar sail oedran:

o   Stereoteipio, rhagfarn a/neu wahaniaethu ar sail oedran neu oedran canfyddedig.

o   Er y gall hyn gael ei ystyried yn rhywbeth diniwed, gall fod yn niweidiol iawn, yn enwedig o ran iechyd meddwl, a gall atal pobl hŷn rhag ceisio cymorth.

o   Gall pobl hŷn fewnoli teimladau o wahaniaethu ar sail oedran, a gall hyn gyfyngu ar eu gweithgarwch a’u cyfleoedd, gan achosi ynysigrwydd cymdeithasol pellach.

o   Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod un o bob dau berson yn arddel safbwyntiau ac agweddau lle maent yn gwahaniaethu ar sail oedran. Nododd y sefydliad fod gwahaniaethu ar sail oedran yn 'ffactor risg mawr' yng nghyd-destun cam-drin pobl hŷn.

o   Mae gwahaniaethu ar sail oedran wedi’i nodi fel ffactor sy’n cyfrannu’n fawr at achosion o gam-drin pobl hŷn.

o   Gall gwahaniaethu ar sail oedran arwain hefyd at lefel uwch o oddefgarwch parthed achosion o gam-drin pobl hŷn.

o   Gall gwahaniaethu ar sail oedran effeithio ar y ffyrdd y mae ymarferwyr yn ymateb i gamdriniaeth: weithiau, ni ofynnir yr un cwestiynau – er enghraifft, anafiadau yn cael eu priodoli i gwympiadau. Mae rhagdybiaethau yn cael eu gwneud mewn perthynas ag achosion o gam-drin.

o   Mynediad cyfyngedig iawn sydd gan bobl hŷn at gyfiawnder troseddol yn sgil rhagdybiaethau am drawma. Felly, ni chynigir yr un opsiynau iddynt.

o   Mae grŵp gorchwyl a gorffen bach yn trafod y cam o ddatblygu pecyn hyfforddi y gall sefydliadau/ymarferwyr ei ddefnyddio i herio rhagdybiaethau ynghylch pobl hŷn.

o   Ei nod yw ystyried gwahaniaethu ar sail oedran a'i pherthynas ag achosion o gam-drin pobl hŷn, a chodi ymwybyddiaeth o’r materion hyn.

 

Andrea Cooper, Arweinydd Diogelu ar gyfer y Comisiynydd Pobl Hŷn

Trafodaeth a chwestiynau

 

JM: Mae diffyg data yn broblem enfawr. A oes unrhyw ofynion y gallwn eu cefnogi?

AC: Gallai’r data fod yn well. Nid yw pobl hŷn yn cael sylw. Nid yw'r categorïau o gymorth ychwaith (er enghraifft, mae 60+ yn rhy eang), ac nid ydynt yn adlewyrchu amrywiaeth y grŵp. Mae angen mwy o ddata a mwy o ddata manwl.

SW: Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn edrych ar y mater hwn. Mae uned data cydraddoldeb newydd wedi'i sefydlu, ac mae'r Pwyllgor yn edrych ar sut mae'r data'n cael eu ddefnyddio er mwyn llywio cynlluniau. Gofynnwyd i aelodau'r grŵp rannu eu barn ynghylch effaith / diffyg effaith hyn â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

ST: Sara – a gafodd sefydliad Llwybrau Newydd ei wahodd i gyfarfodydd bord gron GREVIO a’r Cenhedloedd Unedig?

SKP: Do, i gyfarfodydd bord gron y Cenhedloedd Unedig a drefnwyd gan Gymorth i Ferched Cymru. Cafodd y gwahoddiadau ar gyfer GREVIO eu trefnu gan y corff ei hun.

ST: Andrea – mae’r adnoddau yn ddefnyddiol iawn. Dylid eu darparu i ymarferwyr rheng flaen. Nid yw’r ymatebion iechyd o gymorth. Yn aml, maent yn seiliedig ar ragdybiaethau, ac mae'r data yn rhoi hyn mewn persbectif.

VV: Mae’r ymateb cyfiawnder troseddol yn frawychus. O ble y daw’r syniad nad ydyn nhw am fynd ar drywydd cyfiawnder troseddol? A yw hyn yn anecdotaidd neu'n seiliedig ar ddata?

AC: Ychydig o'r ddau. Mae'r ymateb yn aml yn seiliedig ar les. Gall hyn fod yn briodol i rai pobl, ond mae nifer y bobl sy'n ymgysylltu â’r system cyfiawnder troseddol yn fach iawn. Mae'n gysylltiedig â rhagdybiaethau – er enghraifft, byddai mynd ar drywydd cyfiawnder troseddol yn achosi gormod o drawma. Prosiect Dewis Choice – data hydredol sy’n dangos bod llawer o bobl hŷn am ymgysylltu â’r system cyfiawnder troseddol, ond ni ofynnir iddynt a ydynt am wneud hynny.

VV: Felly, nid yw hyn yn adlewyrchu diffyg cynnydd gan yr heddlu. Yn hytrach, yn fwy aml na pheidio, nid yw’r materion hyn yn cyrraedd y pwynt hwnnw.

AC: Cywir. Mae’n adlewyrchu absenoldeb mesurau arbennig. Yn aml, nid yw profiadau pobl hŷn yn gadarnhaol, ond nid yw llawer ohonynt hyd yn oed yn cyrraedd y pwynt hwnnw.

 

Pawb

Unrhyw fater arall 

 

Y Gyllideb:

 

·         JM: Mae’r cynnydd yn y Grant Cynnal Tai i'w groesawu, ond nid yw’n ddigon. Felly, mae angen mwy o gyllid, yn ogystal â modelau ariannu cynaliadwy tymor hwy, yn hytrach na thaliadau untro.

 

·         SB: Mae ôl-daliadau yn cael eu gwneud, ac mae pobl yn aml yn aros chwe mis am eu taliadau.

 

 

·         JR: Mae argymhellion wedi’u llunio gan y grŵp cyfeirio arbenigol ar recriwtio a chadw. Mae papurau ar y mater hwn wedi cael eu hanfon at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae gan y cynghorwyr rhanbarthol safbwynt arbennig, ac maent wedi cyflwyno papur ar y mater. Roeddent yn cydnabod bod angen aros i weld beth fydd y Grant Cynnal Tai yn ei gynnwys.

 

·         SW: A fydd ymateb y Gweinidog yn cael ei gyhoeddi?

 

·         JR: Byddaf yn gwirio hynny.

 

 

·         MI: Mae’n bosibl y byddai’n werth gwahodd cynrychiolydd o’r heddlu i gyfarfod yn y dyfodol, ynghyd â’r comisiynwyr newydd ar gyfer yr heddlu a throseddu. Dylid cofio bod yr holl ragflaenwyr wedi honni eu bod wedi blaenoriaethu’r mater hwn.

 

 

Materion Mewnol Plaid Cymru:

·         SW: Gan fod un o gyn-Aelodau grŵp Plaid Cymru wedi'i wahardd, roedd SW am roi sicrwydd bod y mater hwn yn cael ei gymryd o ddifri, ac am ddiolch i sefydliad Cymorth i Ferched Cymru am ei ddatganiad cryf ar y pwnc. Roedd yr ymchwiliad yn un hirfaith, ond mae prosesau eisoes ar waith. Mae nifer o’r argymhellion a wnaed gan Nerys Evans fel rhan o adroddiad Prosiect Pawb eisoes wedi’u rhoi ar waith. 

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf a chloi’r cyfarfod:

·         21 Mehefin, rhwng 11:00 a 12:00, ar-lein.

·         Dylid anfon unrhyw awgrymiadau parthed siaradwyr mewn e-bost at jenmills@welshwomensaid.org.uk

 

 

Sioned Williams AS, Cadeirydd 

 

 

 

 

 

 

 

Cam i’w gymryd: JR i ofyn a fyddai modd dosbarthu’r papurau ar recriwtio a chadw, ynghyd ag ymateb y Gweinidog, i'r grŵp.

 

 

 

 

 

 

 

Cam i’w gymryd: JM i wahodd y Comisiynwyr newydd ar gyfer yr heddlu a throseddu i gyfarfod yn y dyfodol.